2015 Rhif 1757 (Cy. 242)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan or Rheoliadau)

Mae Rhannau 2 i 5 or Rheoliadau hyn yn nodir gofynion mewn perthynas â cheisiadau a wneir i awdurdodau lleol yng Nghymru am drwyddedau ar gyfer perfformiadau a gweithgareddau a roddir o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (Deddf 1963) ar amodau syn gymwys i’r trwyddedau hynny, yn ogystal â gofynion syn gymwys i berfformiadau nad ywn ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Mae Rhan 6 or Rheoliadau hyn yn nodi gofynion mewn cysylltiad â thrwyddedau a roddir o dan adran 25 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (Deddf 1933) ar gyfer plant syn perfformio neu syn cymryd rhan mewn gweithgareddau dramor i wneud elw.

Mae rheoliad 3 yn dirymu Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968, a nifer o setiau o reoliadau diwygio, mewn cysylltiad â Chymru.

Mae Rhan 2 or Rheoliadau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ofynion, o ran dogfennaeth, syn ymwneud â phob trwydded, pwerau awdurdodau lleol i osod amodau ar drwydded, cofnodion y maen rhaid iddynt gael eu cadw gan y deiliad trwydded a gofynion mewn cysylltiad â phryd y mae’n rhaid iddo ddangos y drwydded.

Mae Rhan 3 or Rheoliadau hyn yn nodi gofynion cyffredinol mewn cysylltiad â phob perfformiad a gweithgaredd trwyddedig. Maer rhain yn cynnwys mesurau ynghylch llesiant y plentyn, yn enwedig mewn perthynas âu haddysgu, eu goruchwylio au lletya yn ystod y cyfnod y maer drwydded yn gymwys iddo.

Mae Rhan 4 or Rheoliadau hyn yn nodi gofynion syn gymwys i berfformiadau trwyddedig ac i berfformiadau y byddai’n ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, oni bai am yr esemptiad o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963. Maer rhain yn cynnwys cyfyngiadau mewn perthynas ag oriau gweithio a seibiannau.

Mae Rhan 5 or Rheoliadau hyn yn nodi cyfyngiadau ac eithriadau pellach ir rheolau yn Rhan 4, syn gymwys i berfformiadau trwyddedig yn unig. Maer rhain yn ymwneud ymhellach ag oriau gweithio a seibiannau ac yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a hebryngwyr arfer disgresiwn o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 6 or Rheoliadau hyn yn nodir gofynion mewn perthynas â chynnwys trwyddedau a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 (yn caniatáu i blant berfformio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau dramor i wneud elw), ar wybodaeth y maen rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru o dan adran 25(8) or Ddeddf honno, er mwyn ei throsglwyddo ir priod swyddog consylaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2015 Rhif 1757 (Cy. 242)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Gwnaed                                  7 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2015

Yn dod i rym                          30 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd ir Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 25(2) a 25(8) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933([1]) ac adrannau 37(3), 37(4), 37(5), 37(6), 39(3) a 39(5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963([2]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]).

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enwr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 30 Hydref 2015.

(2) Maer Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol

(a)     rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant syn preswylio yng Nghymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fon ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

(b)     rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain Fawr gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan for ceisydd am y drwydded yn preswylio neu pan fo ganddo fan busnes o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, pan fo hynnyn ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

(c)     perfformiadau yng Nghymru, nad yw’n ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963;

(d)     rhoi trwyddedau gan ynadon heddwch yng Nghymru o dan adran 25 o Ddeddf 1933 i alluogi plant i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau dramor i wneud elw.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn

mae i awdurdod addysg yr ystyr a roddir i education authority gan adran 135(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980([4]);

ystyr awdurdod lletyol (host authority) ywr awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg y mae perfformiad neu weithgaredd yn digwydd yn ei ardal;

ystyr awdurdod trwyddedu (licensing authority) ywr awdurdod lleol y maer cais am drwydded wedi ei wneud iddo ac syn rhoir drwydded;

ystyr Deddf 1933 (the 1933 Act) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933;

ystyr Deddf 1963 (the 1963 Act) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963;

ystyr deiliad trwydded (licence holder) ywr person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo gan yr awdurdod trwyddedu;

ystyr diwrnod (day) yw cyfnod o bedair awr ar hugain gan ddechrau a dod i ben am hanner nos ac, at ddibenion rheoliad 30 a pharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 2, rhaid barnu bod unrhyw berfformiad syn digwydd ar ôl hanner nos a chyn yr awr gynharaf a ganiateir fel yi diffinnir yn rheoliad 23 wedi digwydd cyn hanner nos;

ystyr gweithgaredd (activity) yw cymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 37(1)(b) o Ddeddf 1963;

mae i hebryngwr (chaperone) yr ystyr a roddir yn rheoliad 15(1);

ystyr oedran gadael ysgol (school leaving age) ywr oedran pan fo person yn peidio â bod yn berson o oedran ysgol gorfodol yn unol ag adran 8(3) o Ddeddf Addysg 1996([5]);

ystyr rhiant (parent) yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant, fel y diffinnir “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989([6]), dros y plentyn o dan sylw;

ystyr wythnos (week) yw cyfnod o saith niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y maer perfformiad neur gweithgaredd cyntaf y maer drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer yn digwydd neu unrhyw seithfed diwrnod wedi hynny; ac

ystyr ymarfer (rehearsal), ac eithrio at ddibenion paragraff 15 o Ran 2 o Atodlen 2, yw unrhyw ymarfer ar gyfer, neu baratoad ar gyfer, perfformiad, a hwnnwn ymarfer syn digwydd ar ddiwrnod y perfformiad neu yn ystod y cyfnod syn dechrau gydar perfformiad cyntaf ac yn dod i ben gydar perfformiad olaf.

Dirymiadau

3. Maer Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu mewn cysylltiad â Chymru.

RHAN 2

Y gofynion, o ran dogfennaeth, mewn perthynas â phob trwydded

Cais am drwydded

4.(1) Rhaid i gais am drwydded

(a)     cael ei wneud yn ysgrifenedig gan

                           (i)    y person syn gyfrifol am drefnur digwyddiad chwaraeon neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n bwriadu cymryd y plentyn ymlaen fel model; neu

                         (ii)    y person syn gyfrifol am gynhyrchur perfformiad y maer plentyn i gymryd rhan ynddo;

(b)     cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2;

(c)     cael ei lofnodi gan y ceisydd a rhiant ir plentyn; a

(d)     cynnwys gydag ef y ddogfennaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.

(2) Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod rhoi trwydded os na ddawr cais i law o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau cyn y diwrnod y maer perfformiad neur gweithgaredd cyntaf, y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, i ddigwydd.

Amodau trwydded

5. Rhaid ir awdurdod trwyddedu osod unrhyw amodau y maen barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau

(a)     bod y plentyn yn ffit i gymryd rhan yn y perfformiad neur gweithgaredd;

(b)     bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau iechyd a llesiant y plentyn; ac

(c)     bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau na fydd addysg y plentyn yn dioddef.

6. Pan for ceisydd yn gofyn am drwydded i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad neu ymarfer penodol, ond nad ywn gallu pennu’r dyddiadau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neur ymarfer hwnnw adeg gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod trwyddedu, os yw’n penderfynu rhoir drwydded, osod amod mai dim ond am nifer penodedig o ddiwrnodau o fewn cyfnod o chwe mis y caiff y plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neur ymarfer penodol hwnnw.

7.(1) Pan for awdurdod trwyddedun barnu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn annigonol iw alluogi i benderfynu pun a fydd yn dyroddi trwydded neun dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, rhaid ir awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol iw alluogi i wneud penderfyniad or fath.

(2) Yn benodol, caiff yr awdurdod trwyddedu

(a)     gofyn bod y plentyn yn cael ei archwilion feddygol;

(b)     cyf-weld unrhyw athro preifat arfaethedig neu athrawes breifat arfaethedig;

(c)     cyf-weld y ceisydd, y plentyn, rhienir plentyn, neur hebryngwr arfaethedig, fel y bon briodol.

Ffurf trwydded

8.(1) Rhaid i drwydded gynnwys

(a)     enwr plentyn;

(b)     enw rhienir plentyn;

(c)     enwr ceisydd;

(d)     enwau, amserau, natur a lleoliad y gweithgaredd neur perfformiad (a lleoliad unrhyw ymarfer os ywn wahanol) y maer drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer;

(e)     dyddiadaur gweithgaredd, y perfformiad neur ymarfer, neu yn ller dyddiadau, nifer y diwrnodau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neur ymarfer, a’r cyfnod, nad yw’n hwy na chwe mis, pan gaiff y gweithgareddau, y perfformiadau neur ymarferion ddigwydd yn unol â rheoliad 6;

(f)      unrhyw amodau, y maer awdurdod trwyddedu yn barnu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoir drwydded; ac

(g)     datganiad bod y drwydded yn ddarostyngedig ir cyfyngiadau ar amodau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i ffotograff or plentyn fod wedi ei atodi ir drwydded.

Y manylion y maen rhaid i awdurdod trwyddedu eu darparu mewn cysylltiad â thrwydded

9. Rhaid ir awdurdod trwyddedu anfon copi or drwydded at y rhiant a lofnododd y ffurflen gais.

10. Pan fo perfformiad neu weithgaredd i ddigwydd yn ardal awdurdod lletyol ac eithrior awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 39(3) o Ddeddf 1963, rhaid ir awdurdod trwyddedu anfon at yr awdurdod lletyol hwnnw gopi or ffurflen gais, y drwydded, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol a gafodd o dan reoliad 7 a phan for awdurdod trwyddedun cymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg y plentyn, manylion y diwrnodau yn ystod cyfnod y drwydded pan fyddain ofynnol fel arfer ir plentyn syn ddarostyngedig ir drwydded fynychur ysgol pe bai’r plentyn hwnnwn mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

Y cofnodion sydd iw cadw gan y deiliad trwydded o dan adran 39(5) o Ddeddf 1963

11. Am chwe mis o ddyddiad y perfformiad neur gweithgaredd diwethaf y maer drwydded yn ymwneud ag ef, rhaid ir deiliad trwydded gadwr cofnodion a bennir yn

(a)     Rhan 1 o Atodlen 3, pan for drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â pherfformiad; neu

(b)     Rhan 2 o Atodlen 3, pan for drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â gweithgaredd.

Dangos trwydded

12. Rhaid ir deiliad trwydded, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos y drwydded ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod syn dechrau gydar perfformiad neur gweithgaredd cyntaf ac yn dod i ben gydar un olaf y maer drwydded yn ymwneud ag ef, yn y man lle y cynhelir y perfformiad (neu unrhyw fan lle y cynhelir yr ymarfer), neur man lle y maer gweithgaredd y maer drwydded yn ymwneud ag ef yn digwydd, i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lletyol neu i gwnstabl.

Polisi amddiffyn plant

13.Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau y glynir wrth y polisi neu’r polisïau a amgaeir gyda’r cais.

Llythyr oddi wrth y pennaeth

14.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaniateir i awdurdod trwyddedu roi trwydded mewn cysylltiad â phlentyn sy’n mynychu ysgol oni bai bod yr awdurdod —

(a)     wedi cael llythyr oddi wrth bennaeth yr ysgol honno sy’n ymdrin ag unrhyw fater sy’n berthnasol i’r broses o ystyried adran 37(4) o Ddeddf 1963 gan yr awdurdod; a

(b)     wedi ystyried y llythyr hwnnw.

(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r awdurdod wedi ei fodloni nad yw wedi bod yn ymarferol cyflwyno llythyr.

 

RHAN 3

Gofynion cyffredinol syn gymwys i bob perfformiad neu weithgaredd trwyddedig

Addysg

15.(1) Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu roi trwydded

(a)     oni chaiff ei fodloni na fyddai addysg y plentyn yn dioddef drwy iddo gymryd rhan yn y perfformiadau neur gweithgareddau;

(b)     onid yw wedi cymeradwyor trefniadau (os oes rhai) ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y maer drwydded yn gymwys iddo; ac

(c)     onid yw wedi cymeradwyor man lle y maer plentyn i gael addysg, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y maen barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y man hwnnwn addas ar gyfer addysg y plentyn.

(2) Rhaid ir deiliad trwydded sicrhau bod unrhyw drefniadau a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu ar gyfer addysg y plentyn yn cael eu cyflawni.

(3) Ni chaniateir ir awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg plentyn gan athro preifat neu athrawes breifat oni chaiff ei fodloni

(a)     ar y cwrs astudio arfaethedig ar gyfer y plentyn;

(b)     y darperir y cwrs astudio arfaethedig gan athro preifat addas neu athrawes breifat addas;

(c)     na fydd yr athro preifat neu’r athrawes breifat yn addysgu mwy na chwe phlentyn (gan gynnwys y plentyn o dan sylw) ar unrhyw adeg, neu ddeuddeg o blant os ywr holl blant syn cael eu haddysgu wedi cyrraedd safon debyg yn y pwnc syn cael ei addysgu ir plentyn o dan sylw; a

(d)     y bydd y plentyn, yn ystod y cyfnod y maer drwydded yn gymwys iddo, yn cael addysg am gyfnodau sydd, ou hagregu, yn dod i gyfanswm nad ywn llai na thair awr ar bob diwrnod y byddain ofynnol ir plentyn fynychur ysgol pe bain mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

(4) Bernir bod gofynion paragraff (3)(d) wedi eu bodloni os ywr awdurdod trwyddedu wedi ei fodloni y bydd y plentyn yn cael addysg

(a)     am ddim llai na chwe awr yr wythnos;

(b)     yn ystod pob cyfnod cyflawn o bedair wythnos, neu os oes cyfnod o lai na phedair wythnos, yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnodau nad ydynt yn llai nar cyfnodau addysg agregedig syn ofynnol gan baragraff (3)(d) mewn cysylltiad âr cyfnod;

(c)     ar ddiwrnodau pan fyddain ofynnol ir plentyn fynychur ysgol pe bain ddisgybl syn mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu; a

(d)     am ddim mwy na phum awr ar unrhyw ddiwrnod or fath.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw unrhyw gyfnod addysg yn cynnwys

(a)     unrhyw gyfnod syn digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau y caniateir i blentyn fod yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 23; a

(b)     unrhyw gyfnod syn llai na deng munud ar hugain.

Enillion

16. Caiff yr awdurdod trwyddedu gynnwys amod yn y drwydded i unrhyw un neu rai neur cyfan or symiau a enillir gan y plentyn am gymryd rhan yn y perfformiad neur gweithgaredd gael ei drin neu eu trin mewn modd penodol gan y deiliad trwydded.

Hebryngwyr

17.(1) Rhaid i awdurdod trwyddedu gymeradwyo person i fod yn hebryngwr i

(a)     gofalu am y plentyn ai reoli; a

(b)     diogelu, cynnal a hyrwyddo llesiant y plentyn,

tra bor plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad, neu ymarfer neu tra bor plentyn yn byw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai fel arall yn byw yn ystod y cyfnod y maer drwydded yn gymwys iddo.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os ywr plentyn yn cael ei ofalu amdano gan riant y plentyn neu athro neu athrawes a fyddai fel arfer yn darparu addysg y plentyn.

(3) Y nifer uchaf o blant y caiff hebryngwr ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg yw

(a)     deuddeg; neu

(b)     os athro preifat neu athrawes breifat y plentyn o dan sylw yw’r person a gymeradwywyd i weithredu fel hebryngwr, tri.

(4) Ni chaniateir ir awdurdod trwyddedu gymeradwyo person fel hebryngwr oni chaiff ei fodloni bod y person

(a)     wedi ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant;

(b)     yn addas a chymwys i arfer gofal priodol dros, a rheolaeth briodol ar, blentyn o oedran a rhywr plentyn o dan sylw; ac

(c)     yn un na fydd yn cael ei atal rhag cyflawni dyletswyddau tuag at y plentyn gan ddyletswyddau tuag at blant eraill.

(5) Pan fo plentyn yn dioddef gan unrhyw anaf neu afiechyd tra bo o dan ofal yr hebryngwr, rhaid ir deiliad trwydded sicrhau bod rhiant y plentyn a enwir yn y ffurflen gais, yr awdurdod trwyddedu ar awdurdod lletyol yn cael eu hysbysu ar unwaith am yr anaf neur afiechyd hwnnw.

(6) Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn credu ei bod yn briodol, caniateir iddo roi trwydded yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r deiliad trwydded ddarparu i’r hebryngwr gopi cyfredol o’r sgript ar gyfer y cynhyrchiad o dan sylw.

(7) Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (6) fod wedi ei nodi yn y drwydded.

Llety

18.(1) Pan fon ofynnol i blentyn fyw yn rhywle ac eithrior man lle y byddain byw fel arfer yn ystod y cyfnod y maer drwydded yn gymwys iddo oherwydd ei fod yn cymryd rhan yn y perfformiad neur gweithgaredd y cafwyd y drwydded ar ei gyfer, rhaid ir awdurdod trwyddedu gymeradwyor man hwnnw fel un syn addas ir plentyn hwnnw.

(2) Caniateir i gymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu rai or amodau a ganlyn

(a)     y darperir cludiant ir plentyn rhwng y man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd, ar llety;

(b)     bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer prydau bwyd ir plentyn; ac

(c)     unrhyw amod arall a fyddain ffafriol i les y plentyn mewn cysylltiad âr llety hwnnw.

Y man lle y cynhelir y perfformiad ar man lle y cynhelir yr ymarfer

19.(1) Rhaid ir awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw fan lle y bydd y plentyn yn perfformio, yn ymarfer neun cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.

(2) Ni chaniateir ir awdurdod trwyddedu gymeradwyor man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd oni chaiff ei fodloni, o roi sylw i oedran y plentyn a natur, amser a hyd y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd

(a)     bod trefniadau addas wedi eu gwneud

                           (i)    ar gyfer darparu prydau bwyd ir plentyn;

                         (ii)    ir plentyn ymwisgo ar gyfer y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd; a

                       (iii)    ar gyfer amser gorffwys a hamdden y plentyn, pan nad ywn cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer neu weithgaredd;

(b)     bod gan y man hwnnw doiledau a chyfleusterau ymolchi sy’n addas a digonol; ac

(c)     y caiff y plentyn ei amddiffyn yn ddigonol rhag tywydd garw.

(3) Caiff yr awdurdod trwyddedu roi ei gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

(4) Ym mharagraff (2)(a)(ii), nid yw trefniadau i blentyn, sydd wedi cyrraedd pum mlwydd oed, ymwisgo ar gyfer perfformiad, ymarfer neu weithgaredd yn addas onid ywn cael ymwisgo gyda phlant or un rhyw ag ef yn unig.

Trefniadau ac amser ar gyfer teithio

20.(1) Rhaid ir deiliad trwydded sicrhau bod trefniadau addas (o roi sylw i oedran y plentyn) yn cael eu gwneud i fynd âr plentyn iw gartref neu i unrhyw gyrchfan arall ar ôl y perfformiad neur ymarfer olaf, neu derfyn unrhyw weithgaredd ar unrhyw ddiwrnod.

(2) Rhaid ir awdurdod trwyddedu

(a)     rhoi sylw, pan fon rhoi ei gymeradwyaeth, i hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio wrth deithio yn ôl ac ymlaen ir man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer; a

(b)     cynnwys unrhyw amodau y maen barnu eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas âr amserau cynharaf a hwyraf y caiff y plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer.

RHAN 4

Cyfyngiadau mewn perthynas â phob perfformiad

Cymhwysor Rhan hon

21. Maer gofynion yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig ac i bob perfformiad, sydd wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded, o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Cyflogaeth

22. Ni chaniateir i blentyn syn cymryd rhan mewn perfformiad gael ei gyflogi mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad hwnnw nar diwrnod wedyn.

Yr amserau cynharaf a hwyraf yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer

23.(1) Mae Tabl 1 yn nodir amserau cynharaf a hwyraf y caiff plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer.

(2) Nid ywr rheoliad hwn yn gymwys os y man lle y maer plentyn fel arfer yn byw neun cael ei addysg yw’r man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer.

Tabl 1

Oedran y plentyn

Yr amser cynharaf

Yr amser hwyraf

Oi eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed

07:00

22:00

O 5 oed tan oedran gadael ysgol

07:00

23:00

Presenoldeb mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer a’r oriauperfformio

24.(1) Mae Tabl 2 yn nodi uchafswm nifer yr oriau y caiff plentyn fod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, y caiff berfformio neu ymarfer mewn un niwrnod neu berfformio neu ymarfer yn barhaus.

(2) Wrth gyfrifo nifer yr oriau ar unrhyw ddiwrnod y maer plentyn yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, rhaid ystyried unrhyw gyfnodau addysg syn ofynnol i gydymffurfio â threfniadau a gymeradwyir o dan reoliad 15, hyd yn oed os ywr addysg honnon cael ei darparu yn rhywle ac eithrior man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer.

Tabl 2

Oedran

y plentyn

Uchafswm nifer yr oriau mewn un niwrnod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer

Uchafswm nifer cyfan yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod

Uchafswm nifer parhaus yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod

 

Oi eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed

5

2

0.5

Oi eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 9 oed

8

3

2.5

O 9 oed tan oedran gadael ysgol

9.5

5

2.5

Seibiannau ar unrhyw ddiwrnod pan for plentyn yn perfformio neun ymarfer

25.(1) Pan fo plentyn o dan bum mlwydd oed yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer

(a)     rhaid i unrhyw seibiannau bara am gyfnod o bymtheng munud o leiaf, ac eithrio bod rhaid, pan fo plentyn yn bresennol am bedair neu fwy o oriau yn olynol, i unrhyw seibiannau or fath gynnwys o leiaf un seibiant o ddeugain munud a phump a ddefnyddir at ddiben pryd bwyd; a

(b)     rhaid i unrhyw seibiant gael ei ddefnyddio at ddibenion prydau bwyd, gorffwys, addysg neu hamdden.

(2) Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer am fwy na phedair, ond am lai nag wyth awr yn olynol, rhaid iddo gael o leiaf:

(a)     un seibiant syn para am ddeugain munud a phump o leiaf ar gyfer pryd bwyd; a

(b)     un seibiant arall syn para am bymtheng munud o leiaf.

(3) Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer am wyth awr neu fwy yn olynol, rhaid iddo gael:

(a)     y seibiannau syn ofynnol o dan baragraff (2); a

(b)     o leiaf un seibiant arall syn para am bymtheng munud o leiaf.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i blentyn gael seibiant syn para am awr a hanner o leiaf rhwng pryd y mae’n cymryd rhan mewn perfformiadau olynol pan fo, ar yr un diwrnod

(a)     yn perfformior un rhan neun cymryd rhan perfformiwr arall mewn mwy nag un enghraifft or un perfformiad gan gynnwys ymarferion, syn dod o fewn adran 37(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1963, y mae trwydded wedi ei chael ar eu cyfer;

(b)     yn cymryd rhan mewn perfformiadau o dan drwyddedau gwahanol a roddwyd mewn cysylltiad âr plentyn; neu

(c)     yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae trwydded wedi ei chael ar ei gyfer ac mewn perfformiad nad ywn ofynnol cael trwydded ar ei gyfer o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

(5) Pan for perfformiad neur ymarfer cynharach yn para llai nag un awr, ac

(a)     bod y perfformiad neur ymarfer canlynol yn digwydd yn yr un man perfformio neu ymarfer; neu

(b)     nad oes angen unrhyw amser ar gyfer teithio rhwng y perfformiad neur ymarfer cynharach ar un olynol,

caniateir ir seibiant rhwng y perfformiadau (neur ymarferion) hynny gael ei ostwng i isafswm o ddeugain munud a phump.

Isafswm nifer y seibiannau dros nos

26. Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i blentyn gael seibiant dros nos syn para deuddeg awr o leiaf rhwng ei bresenoldeb yn y man perfformio neu ymarfer.

RHAN 5

Cyfyngiadau ac eithriadau mewn perthynas â phob perfformiad trwyddedig

Cymhwysor Rhan hon

27. Maer cyfyngiadau ar eithriadau yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig.

Uchafswm nifer y diwrnodau olynol y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion

28. Ni chaniateir i blentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion ar fwy na chwe niwrnod yn olynol.

Seibiant mewn perfformiadau

29.(1) Ni chaniateir i blentyn syn cymryd rhan mewn perfformiadau, ac eithrio perfformiadau syrcas, ar uchafswm nifer y diwrnodau olynol a ganiateir gan reoliad 28 am gyfnod o wyth wythnos yn olynol, gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer yn ystod y pedwar diwrnod ar ddeg syn dilyn y perfformiad diwethaf.

(2) Nid ywr gofyniad hwn yn gymwys os yw nifer y diwrnodau a bennir yn y drwydded i’r plentyn gael perfformio arnynt yn llai na thrigain.

Gwaith nos

30.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod trwyddedu ganiatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23.

(2) Pan fo awdurdod trwyddedu yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23

(a)     rhaid i nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf gael ei gynnwys wrth gyfrifo uchafswm nifer yr oriau pan gaiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer wrth gydymffurfio â rheoliad 24;

(b)     ni chaniateir ir plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer arall hyd nes y bydd o leiaf un awr ar bymtheg wedi mynd heibio er diwedd rhan y plentyn yn y perfformiad; ac

(c)     pan for plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf ar ddau ddiwrnod yn olynol, ni chaiff yr awdurdod trwyddedu ganiatáu ir plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad pellach yn yr oriau rhwng yr amserau hwyraf ar rhai cynharaf yn ystod y saith niwrnod yn union ar ôl y ddau ddiwrnod hynny.

Disgresiwn yr hebryngwr

31.(1) Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad ywn hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod

(a)     na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad ywn hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;

(b)     ei bod yn ymddangos ir hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac

(c)     ei bod yn ymddangos ir hebryngwr bod yr amodau syn ei gwneud yn ofynnol ir plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.

(2) Pan for hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid ir deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysur awdurdod trwyddedu ar awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoir rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

(3) Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un or seibiannau ar gyfer pryd bwyd, syn ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan for plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod

(a)     nad ywr seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a

(b)     nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.

RHAN 6

Trwyddedau i berfformio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dramor

Ffurf trwydded

32. Rhaid i drwydded a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 gynnwys

(a)     enwr plentyn;

(b)     enwr ceisydd;

(c)     manylion yr ymrwymiad y maer plentyn yn mynd dramor iw gyflawni;

(d)     y dyddiad y rhoddir y drwydded ar dyddiad y daw i ben;

(e)     manylion unrhyw warant a roddir gan y ceisydd yn unol ag adran 25(6) o Ddeddf 1933;

(f)      manylion unrhyw amodau y bernir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoir drwydded; ac

(g)     llofnod y person syn rhoir drwydded.

Yr wybodaeth sydd iw darparu i swyddog consylaidd

33. Pan fo trwydded o dan adran 25 o Ddeddf 1933 wedi ei rhoi, ei hadnewyddu neu ei hamrywio, y manylion y maen rhaid ir ynad heddwch eu hanfon at Weinidogion Cymru er mwyn eu trosglwyddo ir priod swyddog consylaidd yw

(a)     enw a chyfeiriad y plentyn;

(b)     dyddiad geni, man geni a chenedligrwydd y plentyn;

(c)     enw a chyfeiriad y ceisydd am y drwydded;

(d)     enw a chyfeiriad rhiant y plentyn;

(e)     manylion yr ymrwymiad, gan gynnwys ym mha le ac am ba mor hir y maer plentyn i gymryd rhan;

(f)      copi or contract cyflogaeth neu ddogfen arall syn dangos ar ba delerau ac amodau y maer plentyn wedi ei gymryd ymlaen; ac

(g)     copi or drwydded.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2015


YR ATODLENNI

                    ATODLEN 1        Rheoliad 3

Dirymiadau

Tabl 3

Y Rheoliadau

Y Cyfeirnod

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968

 

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygiadau Amrywiol) 1998

 

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007

 

1968/1728

 

 

 

1998/1678

 

 

 

 

 

2007/736

                    ATODLEN 2        Rheoliad 4

Yr Wybodaeth syn Ofynnol ar gyfer Cais am Drwydded

                        RHAN 1                       

Yr wybodaeth sydd iw darparu gan y ceisydd mewn perthynas âr plentyn

1. Enw, cyfeiriad a dyddiad genir plentyn y gofynnir am drwydded ar ei gyfer.

2. Enw a chyfeiriad yr ysgol y maer plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd neu, os nad ywr plentyn yn mynychu ysgol, enw a chyfeiriad athro preifat neu athrawes breifat y plentyn. 

3. Manylion pob trwydded mewn perthynas âr plentyn a roddwyd yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrior awdurdod trwyddedu y maer cais yn cael ei wneud iddo, gan ddatgan ym mhob achos

(a)     enwr awdurdod lleol neur awdurdod addysg;

(b)     y dyddiad pan roddwyd y drwydded; ac

(c)     dyddiadau a natur y perfformiadau neur gweithgareddau.

4. Manylion pob cais mewn perthynas âr plentyn am drwydded a wrthodwyd gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrior awdurdod trwyddedu y maer cais yn cael ei wneud iddo, yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos

(a)     enwr awdurdod lleol neur awdurdod addysg; a

(b)     y rhesymau (os ydynt yn hysbys) dros wrthod rhoi trwydded.

5. Manylion unrhyw berfformiadau nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, yn rhinwedd adran 37(3) o Ddeddf 1963, ac y cymerodd y plentyn ran ynddynt yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos

(a)     dyddiad y perfformiad;

(b)     nifer y diwrnodau y cynhaliwyd y perfformiad;

(c)     teitl y perfformiad; a

(d)     enw a chyfeiriad y person a oedd yn gyfrifol am gynhyrchur perfformiad y cymerodd y plentyn ran ynddo.

6. Y dyddiadau (os oes rhai) pan oedd y plentyn yn absennol or ysgol yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais oherwydd ei fod wedi cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd.

7. Swm unrhyw arian a enillwyd gan y plentyn yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan a oedd yr arian a enillwyd yn arian mewn cysylltiad â pherfformiadau neu weithgareddau y rhoddwyd trwydded ar eu cyfer neu berfformiad nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar ei gyfer.

RHAN 2

Yr wybodaeth sydd iw darparu gan y ceisydd am y perfformiadau neur gweithgareddau

8. Enw, teitl a chyfeiriad y ceisydd.

9. Enw a natur y perfformiadau neu weithgareddau y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy (er enghraifft, rhai theatraidd, ffilmio, chwaraeon, modelu), a disgrifiad or hyn y byddain ofynnol ir plentyn ei wneud o ganlyniad i gymryd rhan yn y perfformiad neur gweithgareddau.

10. Y man lle y cynhelir y gweithgareddau, y perfformiadau a'r ymarferion y gofynnir am drwydded ar eu cyfer, gan gynnwys unrhyw gyfnodau yn y fan ar lle.

11. Dyddiadau gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer, neu nifer y diwrnodau, a’r cyfnod pryd, y gofynnir i’r plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion.

12. Parhad neu hyd amser cyfan disgwyliedig y gweithgareddau neu berfformiadau (gan gynnwys unrhyw ymarferion) y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy a bras amcan o hyd ymddangosiad y plentyn mewn perfformiadau neu weithgareddau or fath.

13. Faint o waith nos (os oes gwaith nos) y gwneir cais am gymeradwyaeth ar ei gyfer oddi wrth yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30, gan ddatgan

(a)     bras amcan o nifer y diwrnodau;

(b)     bras amcan oi hyd ar bob diwrnod; ac

(c)     y rheswm y maen rhaid ir perfformiad fod ar ffurf gwaith nos.

14. Y symiau sydd iw hennill gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiadau neur gweithgareddau y gofynnir am y drwydded mewn cysylltiad â hwy, ac enw, cyfeiriad a disgrifiad y person y maer symiau iw talu iddo, os na fyddant yn cael eu talu ir plentyn o dan sylw.

15. Pan ofynnir am drwydded mewn cysylltiad â pherfformiad, y trefniadau arfaethedig ar gyfer unrhyw ymarferion cyn y perfformiad cyntaf y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan mewn cysylltiad â phob ymarfer

(a)     y dyddiad;

(b)     y man lle y mae i'w gynnal; a

(c)     bras amcan or amser ar hyd.

16. Y diwrnodau neur hanner diwrnodau y gofynnir am ganiatâd ir plentyn fod yn absennol or ysgol arnynt iw alluogi i gymryd rhan mewn perfformiadau (gan gynnwys ymarferion) neu weithgareddau y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer.

17. Y trefniadau arfaethedig (os oes rhai) o dan reoliad 13 ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan

(a)     pan for addysg iw darparu gan ysgol, enw a chyfeiriad yr ysgol sydd iw mynychu; neu

(b)     pan for addysg iw darparu ac eithrio drwy gyfrwng ysgol

                           (i)    enw, cyfeiriad a chymhwyster yr athro preifat arfaethedig neu’r athrawes breifat arfaethedig;

                         (ii)    y man lle y caiff y plentyn ei addysgu;

                       (iii)    y cwrs astudio arfaethedig;

                        (iv)    nifer y plant eraill sydd iw haddysgu gan yr athro preifat neu’r athrawes breifat yr un pryd âr plentyn y maer cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn; a

                          (v)    a ywr plentyn i gael y cyfanswm o ran addysg syn unol â rheoliad 15(3)(d).

18. Enw a chyfeiriad yr hebryngwr arfaethedig, neu pan na fon ofynnol cael unrhyw hebryngwr or fath yn rhinwedd rheoliad 17(2), enw a chyfeiriad y rhiant neur athro neu’r athrawes a fydd â gofal dros y plentyn.

19. Enwr awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg (os oes un), a gymeradwyodd gynt benodiad yr hebryngwr at ddibenion trwydded.

20. Nifer y plant sydd i fod yng ngofal yr hebryngwr yn ystod yr amser y bydd â gofal dros y plentyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn.

21. Cyfeiriad unrhyw lety lle y bydd y plentyn yn byw os ywn wahanol ir man lle y byddair plentyn yn byw fel arfer, nifer y plant eraill, a manylion am yr hebryngwr (os oes un), a fydd yn byw yn yr un llety.

22. Bras amcan o hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio yn teithio, ar trefniadau (os oes rhai) ar gyfer cludiant

(a)     ir man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd; a

(b)     or man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neur gweithgaredd.

23. Enw unrhyw awdurdod lleol arall neu, yn yr Alban, unrhyw awdurdod addysg arall y mae cais wedi ei wneud iddo i blentyn arall gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau y maer cais yn ymwneud ag ef (os nad ywn hysbys adeg gwneud y cais, mae iw ddarparu pan fon hysbys).

RHAN 3

Y ddogfennaeth syn ofynnol

24. At ddibenion rheoliad 4(1)(d), y ddogfennaeth syn ofynnol yw

(a)     copi o dystysgrif genir plentyn;

(b)     dau ffotograff union yr un fath or plentyn a dynnwyd yn ystod y chwe mis cyn dyddiad y cais;

(c)     copi or contract, y contract drafft neu ddogfennau eraill syn cynnwys manylion y cytundeb syn rheoleiddio ymddangosiad y plentyn yn y perfformiadau, neun rheoleiddior gweithgaredd, y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer neu ar ei gyfer; a

(d)     y polisi (neu bolisïau) amddiffyn plant ac unrhyw bolisïau eraill a gymhwysir gan y ceisydd.

                    ATODLEN 3       Rheoliad 11

Y Cofnodion sydd iw Cadw gan y Deiliad Trwydded

RHAN 1

Y drwydded a roddir mewn cysylltiad â pherfformiad

1. Y drwydded.

2. Y manylion canlynol mewn cysylltiad â phob diwrnod y maer plentyn yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur man lle y cynhelir yr ymarfer

(a)     y dyddiad;

(b)     amser cyrraedd y man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer;

(c)     amser ymadael âr man lle y cynhelir y perfformiad neur ymarfer;

(d)     amserau pob cyfnod pryd y cymerodd y plentyn ran mewn perfformiad neu ymarfer;

(e)     amser pob ysbaid gorffwys;

(f)      amser pob ysbaid pryd bwyd; ac

(g)     amserau unrhyw waith nos a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30.

3. Pan fo trefniadau wedi eu gwneud ir plentyn gael ei addysgu gan athro preifat neu athrawes breifat, dyddiad a hyd pob gwers ar pwnc a addysgir.

4. Manylion yr anafiadau ar afiechydon (os oes rhai) y bur plentyn yn dioddef ganddynt yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur man lle y cynhelir yr ymarfer, gan gynnwys y dyddiadau pan ddigwyddodd yr anafiadau, gan ddatgan a wnaeth yr anafiadau neur afiechydon hynny atal y plentyn rhag bod yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neur man lle y cynhelir yr ymarfer.

5. Dyddiadaur seibiannau mewn perfformiadau syn ofynnol o dan reoliad 29(1).

6. Swm yr holl arian a enillwyd gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiad ac enwau, cyfeiriadau a disgrifiad y personau y talwyd y symiau hynny iddynt.

7. Pan for awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded yn ddarostyngedig ir amod bod rhaid ymdrin âr symiau a enillir gan y plentyn mewn modd a gymeradwyir gan yr awdurdod, cyfanswm y symiau ar modd yr ymdriniwyd â hwy.

RHAN 2

Trwydded a roddir mewn cysylltiad â gweithgaredd

8. Y cofnodion a bennir yn Rhan 1 fel petair rhan honnon ymwneud âr gweithgaredd y rhoddwyd y drwydded ar ei gyfer.



([1])        1933 p. 12; diwygiwyd adran 25(2) gan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38) a rheoliadau 5(c) a (d) o O.S. 1998/276; diwygiwyd adran 25(8) gan reoliad 5(d) o O.S. 1998/276.

([2])        1963 p. 37; diwygiwyd adran 37(3) gan adran 582(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) a rheoliad 12(4)(a), (b) ac (c) o O.S. 1998/276; diwygiwyd adran 37(4) gan reoliad 12(5)(a) a (b) o O.S. 1998/276; diwygiwyd adran 37(6) gan reoliad 12(6) o O.S. 1998/276; diwygiwyd adran 39(3) gan reoliad 14(3)(a) a (b) o O.S. 1998/276; a diwygiwyd adran 39(5) gan reoliad 14(4) o O.S 1998/276.

([3])        Trosglwyddwyd swyddogaethaur Ysgrifennydd Gwladol, ir graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

 

([4])        1980 p. 44. Diwygiwyd y diffiniad hwn gan Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, paragraff 118(9).

([5])        1996 p. 56.

([6])        1989 p. 41.